Return to front Page
  Rtn to previous page
Programme 2011 - 2012   

Cymdeithas Gymraeg Amwythig

(Shrewsbury Welsh Society)

Sefydlwyd Cymdeithas Gymraeg Amwythig yn 1934 gan grwp o Gymry ifanc oedd wedi symud i’r dref i weithio. Yn fuan fe ddaeth i’r amlwg nad oedd unrhyw le ar gael iddynt gyfarfod. Ar daith gerdded i Grinshill un diwrnod penderfynnwyd sefydlu Clwb Cymraeg lle gallai’r Cymry ifanc yma sgwrsio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Eu cartref cyntaf oedd yn Dogpole.

Mae’r Gymdeithas yn mynd ymlaen o nerth i nerth ac yn cyfarfod pob pythefnos o fis Medi i fis Mai yn Neuadd Ddarlithio Swan Hill) ar bwys Capel Annibynwyr ar Swan Hill)

Cynhelir yr holl gyfarfodydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir darlithiau,sgyrsiau,nosweithiau cerddorol ac ymweldiadau gan Gymry amlwg.Mae cysylltiad agos hefyd gyda chymdeithasau Cymraeg eraill,yn Llwydlo(Ludlow) Telford,Wolverhampton,Croesoswallt a’r Trallwm.Cawn ymweliadau ganddyn nhw o dro i dro ac fe fydd rhai ohonn’n ninnau yn ymweld â’u cymdeithasau hwythau.

Mae’r rhaglen am y flwyddyn yn ymddangos o dan ‘rhaglen’ ar y Wê ond does dim amheuaeth mae uchafbwynt y flwyddyn yw ein Cyngerdd Gwyl Dewi a gynhelir yn Theatr Hafren,Yr Amwythig, ar Chwefror 25ain 2012. Bydd un o gorau Ysgol Gerdd Ceredigion yn ein diddanu. Mae’r ysgol yma wedi ei lleoli yn harddwch Dyffryn Teifi,ac sydd,erbyn hyn ar flaen y gâd ym myd canu corawl ieuenctid. Y cyfarwyddwr cerdd yw Islwyn Evans gyda Stephen Pilkington yn gyfeilydd.

Bydd y gweithgareddau yn nwylo Beti George,sydd yn adnabyddus iawn fel cyflwynydd ar BBC Cymru ac ar Radio Cymru. Bydd elw o’r cyngerdd yn cael ei gyflwyno i Fudiad Nyrsus Macmillan sydd yn cynnal ac yn gweini ar gleifion a’u teuluoedd,adref ac yn yr Hosbis.

Yn y flwyddyn 2011,gyda chymorth Banc Barclays,sydd yn rhannol noddi’r cyngerdd,cyflwynwyd £4000 i elusennau lleol.Gobeithiwn all cyflwyno yr un swm i Nyrsus Macmillan yn 2012.

Os am fwy o wybodaeth am weithgareddau’r Gymdeithas (a cofiwch fod croeso cynnes i ddysgwyr),cysylltwch â;

Dilys Jones Llywydd y Gymdeithas

Rhif Ffôn 01743 366218

e.bost dilys.jones@talktalk.net