Cymdeithas Gymraeg Amwythig (Shrewsbury Welsh Society)
   Return to front Page
  Rtn to previous page
Programme 2008     Programme 2009
 
'Bwydlen Cinio Gwyl Dewi 7ed Mawrth 2009'
 

Ffurfiwyd Cymdeithas Gymraeg Amwythig gan griw bychan o Gymry ieuanc a oeddent wedi dod i fyw i`r dre i ddilyn eu gyrfaoedd ym 1934.  Aeth deg ohonynt  ar wibdaith i ben Grinshill am "Bicnic" ar Fehefin 5ed  a thyngwyd llw ganddynt i sefydlu Cymdeithas Gymraeg yn yr Amwythig cyn y Gaeaf. Seliwyd y llw drwy blannu Baner  Y Ddraig Goch ar gopa`r bryn ,a sefydlwyd Y Gymdeithas yn Ysgoldy Capel Y Tabernacl ,ar y Dogpole ,lle cai pob Cymro Cymraeg ymgomio yn yr iaith Gymraeg.

Eleni  `rydym yn dathlu  ei  75ed Penblwydd  drwy gerdded i fyny i gopa Grinshill ( Fel y rhai ym 1934) ac yna cael Swper yng ngwesty`r  "Sparrow" ger Eglwys Battlefield. Bydd hyn ar Fai 22ain 2009.Mae`r manylion yn Rhaglen 20080/2009.

Cyfarfu`r Gymdeithas bob pythefnos o Fis Medi i  Fis Mai yn Festri Capel Swan Hill yn yr Amwythig.

Cymraeg yw iaith y cyfarfodydd a cheir nosweithiau amrywiol --- Darlithiau, Nosweithiau Cerddorol,ac ymweliadau gan Feirdd  a Phrif-lenorion ein gwlad. Croesawir  Dysgwyr yn gynnes iawn , gan fod hyn yn gyfle iddynt i siarad eu iaith newydd. Mae`r  Gymdeithas  yn cysylltu a Chymdeithasau Cymraeg eraill -- Llwydlo, Trallwng , Croesoswallt , Telford ,a Wolverhampton.
 
Pan fydd gweithgareddau  arbennig yny lleoedd hyn byddwn yn ymuno a nhw ac yn eu gwahodd hwy yn ol.
Digwyddiad pwysicaf ein blwyddyn yw Cyngerdd Dydd Gwyl Dewi Sant, a`r pwrpas yw codi swm sylweddol o arian ar gyfer elusen leol. Bydd Cyngerdd 2009 yn y Theatr Severn newydd ar 28ain o Chwefror. Yr Arweinydd fydd Sian Lloyd ,sy`n darogan y tywydd ar I.T .V.  Cor Meibion Pen-y-bont -ar Ogwr a Band Pres Ieuenctid o Gasnewydd fydd perfformwyr y noson. Mae`r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu ond efallai bydd rhai wedi eu dychwelyd---- rhowch ganiad ar 01743 282281 rhag ofn!

Digwyddiad hyfryd arall yw Cinio Dathlu Dydd Gwyl Dewi Sant ar Fawrth 7fed ym Mwyty`r Stadiwm Peldroed Newydd.Ein Gwestai yw Mererid Hopwood o Sir Benfro.Mae hi wedi ennill y prif wobrau llenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol--- Y Gadair , Y Goron, a`r Fedal Ryddiaith-- Camp yn wir !

Os byddwch am ddod i`r cinio,  gwelwch y fwydlen amgeuedig sy`n rhoi `r manylion archebu.
 
Os am unrhyw wybodaeth arall am Y Gymdeithas cysylltwch a............
Mr Arfon Jarman,
Bryn Glas,
2, Edge Close,
Bayston Hill.
Shrewsbury.
SY3 0HH
01743 872202      e-mail arfonjarman@btinternet.com